Yr amser gorau i wneud hyn yw rhwng Mai a Medi.
Helpwch wyddonwyr i fonitro ac amddiffyn ein coed a'n coetiroedd
Mae coed yn hanfodol - maent yn dod â byd natur i fannau trefol, yn cefnogi'r economi wledig, yn darparu bwyd a chynefinoedd i fywyd gwyllt ac yn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Fodd bynnag, mae ein coed yn wynebu bygythiad. Mae nifer yr heintiau a'r clefydon sy'n ymosod arnynt wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Mae llywodraethau'r DU eisoes wedi cynyddu eu gweithgaredd er mwyn gwarchod coed, a gallwch chi helpu hefyd, drwy gymryd rhan yn arolwg iechyd coed OPAL, a ddyluniwyd mewn cydweithrediad â Forest Research a FERA.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae ardyfiant planhigol, all ffurfio ar fes, yn cael eu hachosi gan gacynen fechan o’r enw Andricus quercuscalicis. Cyrhaeddodd dde Lloegr am y tro cyntaf yn y 1950au hwyr ac erbyn hyn mae wedi ymledu dros y rhan fwyaf o'r DU.
Sut i gymryd rhan
Cam 1 – Lawrlwytho'r cyfarwyddiadau a'r canllawiau hawdd eu dilyn isod, mewn lliw yn ddelfrydol.
Cam 2 – Ewch i chwilio am safle sydd â mynediad diogel at un neu ragor o goed llydan-ddeiliog a chychwyn ar eich arolwg!
Cam 3 – Dweud wrthym beth ydych yn ei ganfod gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein syml.
Barod i gyflwyno eich canlyniadau ar-lein?
Wedi i chi gwblhau eich arolwg, cyflwynwch eich canlyniadau gan
ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.
Gall trefn fioddiogelwch dda leihau'r risg o ledaenu clefydon a rhywogaethau ymledol.
Eisiau cyflwyno canfyddiad o haint neu glefyd yn unig?
Defnyddiwch y ffurflen isod i adrodd am haint neu glefyd heb gyflwyno data arolwg llawn. Cyflwynwch lun hefyd os gallwch.
Cyflwyno canfyddiad o haint neu glefyd yn unig
Dysgu mwy am heintiau a chlefydau all effeithio ar goed
Problemau wrth gyflwyno eich canlyniadau arolwg ar lein?
Anfonwch eich canlyniadau i: FREEPOST RSCH-CKYJ-HYYC, OPAL, Centre for Environmental Policy, Imperial College, South Kensington, London SW7 2AZ.
Lawrlwythiadau – popeth sydd ei angen arnoch i gymryd rhan
![]() (PDF, 561KB): Cyfarwyddiadau a gwybodaeth am rywogaethau coed cyffredin yn y DU |
(PDF, 750KB): Taflenni cofnodi a gwybodaeth am heintiau a chlefydau i chwilio amdanynt |
![]() Heintiau a chlefydau all fod yn fygythiad difrifol i goed |
Canllawiau a phoster adnabod coed (PDF, 1MB) – canllawiau ar gyfer eich wal i'ch helpu i adnabod rhywogaethau coed cyffredin yn y DU
- Taflenni cofnodi maes electronig ar gyfer coed lluosog (Excel, 52KB) – canllawiau ar gyfer eich wal i'ch helpu i adnabod rhywogaethau coed cyffredin yn y DU
- Taflenni cofnodi maes y gellir eu hargraffu ar gyfer coed lluosog, Gweithgaredd 1 (Excel, 42.5KB) – cofnodi data â llaw ar gyfer hyd at 30 o goed
- Taflenni cofnodi maes y gellir eu hargraffu ar gyfer coed lluosog, Gweithgaredd 2 (Excel, 45KB) – cofnodi data â llaw ar gyfer hyd at 30 o goed
Gallwch lawrlwytho'r dogfennau hyn ar gyfer eu defnyddio yng nghyd-destun prosiect OPAL yn unig. Cedwir pob hawl arall.
Polisi a rheoliadau
Am wybodaeth am y camau a gymerir gan lywodraethau'r DU a'u hasiantaethau er mwyn gwarchod ein coed rhag heintiau a chlefydau, ewch i: